Bamfords-Banner-Ad

We have 22 guests online

WST Community Share Offer Brochure    |    WST Community Share Offer Application Form    |    WST Community Share Offer Standing Order Form   |   Cwestiynau Cyffredin am Gynnig Cyfrannau Cymunedol YCW

Wrexham AFC Limited Football Conference Financial Forecast (Season 2012/13)    |    Wrexham AFC Limited Football League Financial Forecast (Season 2012/13)

Ein Clwb, Ein Dyfodol

 header2Gwahoddir aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i fuddsoddi i sicrhau dyfodol mwy disglair i’n clwb pêl-droed.

Mae ein haelodau wedi bod yn anhygoel yn codi dros £600,000 i’r Ymddiriedolaeth ers ei ffurfio, heb sôn am yr holl gefnogwyr a gyfrannodd dros £125,000 i sicrhau bond i alluogi’r Clwb i ddechrau tymor 2011/12 yn y Gyngres Bêl-droed. Trwy hyn llwyddodd y cefnogwyr i achub ein Clwb a’i roi ym meddiant y gymuned. Rŵan mae angen codi cyfalaf ychwanegol i fuddsoddi yn ein Clwb, tyfu’r busnes a sicrhau ein dyfodol hirdymor

Ein nod yw codi o leiaf £300,000 erbyn diwedd tymor 2012/13.

Dangosodd yr ymgyrch Red or Dead gryfder anhygoel y gefnogaeth ar adeg pryd roedd pryderon difrifol am ddyfodol ein Clwb. Rhoddodd dros 90 o bobl bron i £60,000 mewn cyfrif dal diogel yng ngofal ein cyfreithwyr Cobbetts. A ninnau bellach yn berchen ar y Clwb ac yn deall mwy am yr ochr ariannol i bethau, gobeithiwn y bydd cyfranwyr presennol a’n haelodaeth ehangach yn fodlon buddsoddi yn Ein Clwb, Ein Dyfodol.   

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn caniatáu inni gynllunio ein dyfodol gan wybod bod y cyfalaf angenrheidiol gennym i droi busnes oedd yn gwneud colled i fod yn glwb pêl-droed cymunedol llwyddiannus, diogel a chynaliadwy. Bydd yr arian yn rhoi amser inni ddechrau gosod y sylfeini ar gyfer cynllun busnes tymor hir, y gobeithiwn ei sefydlu erbyn diwedd tymor 2011/12 gan gychwyn ar seiliau cadarn o’r tymor nesaf ymlaen.

 

Adeiladu dyfodol mwy disglair i Glwb Pêl-droed Wrecsam 

 

O gofio haelioni cefnogwyr Wrecsam yn y gorffennol roeddem yn teimlo na fyddai’n rhesymol gofyn am fwy o roddion. Yn lle hynny rydym yn gofyn ichi fuddsoddi mewn cyfranddaliadau cyfalaf yn y Clwb. Credwn y bydd cyfalaf cyfranddaliadau yn hytrach na benthyciadau yn cryfhau ein mantolen ac yn ein rhoi mewn sefyllfa y byddai llawer o’n cystadleuwyr ar y cae yn eiddigeddus ohoni. Mae cyfalaf cyfrannau’n fodd o godi arian gan ein haelodau i’w fuddsoddi yn ein busnes a’i dyfu, tra bod cyfalaf benthyciadau’n ffurf ar ddyled y mae’n rhaid ei had-dalu, fel arfer gyda llog dros gyfnod amser penodol.

 

Fel perchnogion y Clwb, bydd y cyfrannau cymunedol yn caniatáu ichi fuddsoddi’n barhaus yn y busnes, gan newid eich perthynas â’r Clwb am byth.

 

 

 

This content requires Flash Player!
To view this content, JavaScript must be enabled, and you need the latest version of the Flash Player.
Download Adobe Flash Player now!

This is an on-line version of the Offer booklet sent out to all Wrexham Supporters Trust members. If you are a member,and didn't recieve a booklet and would like one, please email shares@wst.org.uk with your contact details, or click HERE to downlaod a PDF version..

WST Community Share Offer Brochure    |    WST Community Share Offer Application Form    |    WST Community Share Offer Standing Order Form   |   Cwestiynau Cyffredin am Gynnig Cyfrannau Cymunedol YCW

Wrexham AFC Limited Football Conference Financial Forecast (Season 2012/13)    |    Wrexham AFC Limited Football League Financial Forecast (Season 2012/13)


Perfformiad ariannol gwirioneddol Clwb Pêl-droed Wrecsam a’r rhagolwg

Yn y pum tymor cyntaf ers dod allan o weinyddiad yn Awst 2006 cronnodd y Clwb golledion o bron i £5 miliwn.

Oddi ar y cae, gwerthodd y Clwb ei dir datblygu, y Cae Ras a chyfleuster hyfforddi Colliers Park i dalu am y colledion hyn ar ôl wynebu gorchymyn dirwyn i ben gan adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn 2011. Yn ystod y cyfnod hwn collodd y clwb ei statws 88 mlynedd fel aelod o’r Gynghrair Bêl-droed hefyd.

Heb ddim mwy o asedau i’w gwerthu, yr unig gyfle i’r Clwb oroesi yn y tymor hir yw drwy ddod yn hunan-gynaliadwy. Mae bod yn eiddo i’r gymuned yn rhoi cyfle gwych i Glwb Pêl-droed Wrecsam, ond nid yw’n datrys ein problemau dros nos.

Mae tabl 1 isod yn dangos perfformiad ariannol gwirioneddol y Clwb Pêl-droed a’r rhagolygon. Seilir y rhagolygon ar y dybiaeth na chaiff y busnes ei ailstrwythuro ac na werthir chwaraewyr na chael rhediadau cwpan y tymor nesaf. 

Tymor

2010/2011

2011/12

2012/13

2012/13

 

Gwirioneddol

Gwirioneddol a Rhagolwg

Rhagolwg yn y Gyngres

Rhagolwg yn y Gynghrair Bêl-droed

Trosiant

£1,887,994

£1,877,106

£1,502,592

£2,267,489

Costau

£2,931,438

£2,033,679

£1,900,962

£2,303,142

Elw/(Colled) Gweithredol

(£1,043,444)

(£156,573)

(£398,370)

(£35,652)

Tabl 1: Perfformiad ariannol gwirioneddol Clwb Pêl-droed Wrecsam a’r rhagolygon

Y peth amlycaf yma yw rhagolwg y collir £398,370 os arhoswn yn y Gyngres Bêl-droed, heb ailstrwythuro’r busnes. Dyna ragolwg anghynaliadwy lle byddwn yn gwario £1.27 am bob £1 a wnawn. Byddai cyrraedd ein targed o £300,000 (ynghyd â’n hadnoddau wrth gefn cyfredol) yn ein gadael mewn sefyllfa well i ddelio â’r golled bosibl hon os na allwn ailstrwythuro’r busnes mewn da bryd.

Mae’r ffigurau blaenorol am 2010/11 yn cynnwys incwm a chostau cysylltiedig â pherchnogaeth a rheolaeth y Cae Ras a maes hyfforddi Colliers Park. Rydym yn ddiweddar wedi cytuno ar dâl sefydlog i Brifysgol Glyndŵr am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn, sydd wedi’i chynnwys yn y rhagolygon ar gyfer tymhorau 2011/12 a 2012/13. Mae ffigurau 2011/12 yn cynnwys ffigurau masnachu cyn i ni gymryd meddiant a hefyd yn cynnwys incwm o’n rhediad yng Nghwpan Lloegr, incwm ffioedd trosglwyddo a thorfeydd mwy wrth inni gystadlu ar frig y gynghrair. Nid yw’r incwm hwn wedi’i gynnwys yn rhagolygon 2012/13, dim ots pa gynghrair y byddwn yn cystadlu ynddi.

Mae’r rhagolwg ar gyfer 2012/13 yn y Gyngres Bêl-droed yn seiliedig ar gyfartaledd torf o 3,600, tra bod rhagolwg y Gynghrair Bêl-droed yn seiliedig ar 4,200. Rydym eisoes wedi dechrau gwneud rhywbeth am y diffyg gweithgaredd masnachol yn y Clwb ac wedi rhagweld gwerthu 6 blwch moethus, pob un o’r 23 pecyn noddi gêm a noddi peli, a chroesawu 100 o bobl i bob gêm yn y mannau lletygarwch y tymor nesaf. Rydym hefyd wedi rhagweld gwerthu’r rhan fwyaf o’r byrddau hysbysebu o gwmpas y cae a hysbysebion eraill a welir yng Nghae Ras Prifysgol Glyndŵr. 

Y gwahaniaeth mawr arall rhwng rhagolygon y Gyngres a’r Gynghrair Bêl-droed yw’r nawdd canolog a gâi’r Clwb oddi wrth y ddwy gynghrair. Felly rydym wedi cynyddu’r gyllideb chwaraewyr i adlewyrchu’r gwahaniaeth hwn os byddwn yn y Gynghrair Bêl-droed y tymor nesaf. Rydym hefyd wedi rhagweld dim nawdd canolog i’r Ganolfan Ragoriaeth os parhawn yn glwb Cyngres, gan mai dyna’n dealltwriaeth ni o’r rheolau ar gyfer y tymor nesaf. 

Mae’r sail costau wedi’i chyfrif o’n dadansoddiad o wybodaeth reoli’r gorffennol ac fe’i diweddarwyd i adlewyrchu ein dealltwriaeth o gostau rhedeg y clwb pêl-droed ers inni gymryd yr awenau. 

Dyletswydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w aelodau am sefyllfa ariannol y Clwb. Mae dadansoddiad ariannol manylach i’w weld ar wefan YCW, www.wst.org.uk. Neu gellir gofyn am gopi o’r dadansoddiad hwn drwy anfon amlen C5 gyda’ch cyfeiriad a stamp arni i FREEPOST WST. Dan ein Cyfansoddiad a gymeradwywyd yn ddiweddar, hefyd, rhaid inni rannu amlinelliad o gyllideb y Clwb Pêl-droed yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM).


Beth arall ddylwn i ei wybod?

Rydych chi’n buddsoddi yn Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, a gofrestrwyd gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol fel Cymdeithas Cefnogwyr Wrecsam Cyfyngedig ar 15 Mawrth, 2002 (rhif cofrestru 29366 R).

Y gyfran leiaf y gellir ei phrynu yw £100 a gall aelodau fuddsoddi hyd at uchafswm cyfranddaliad o £20,000. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu mwy, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth. Mae sawl modd y gellid derbyn cyfraniad uwch.

Ein targed yw codi £300,000 erbyn diwedd tymor 2012/13. Cyhoeddir cyfranddaliadau yn Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn syth ac ni fyddant yn amodol ar inni gyrraedd y targedau hyn.

Pan all y Clwb fforddio hynny, ac ar ddisgresiwn Bwrdd YCW, gellir talu llog blynyddol ar gyfranddaliadau hyd at uchafswm o 2% yn fwy na chyfradd waelodol y banc clirio (Banc Lloegr).

Os caiff yr Ymddiriedolaeth ei diddymu’n ddiddyled neu ei dirwyn i ben, ni fydd gan ddeiliaid y cyfrannau ddim hawl ariannol mwy na thalu llog sy’n ddyledus a gymeradwyir gan y Bwrdd ac ad-daliad y cyfalaf cyfrannol a dalwyd i mewn. Gellir gweld cyfrifon archwiliedig blaenorol YCW yn www.wst.org.uk.

Mae ein cynnig cyfrannau’n eithriedig o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 neu reoliadau dani; mae hyn golygu nad oes gennych hawl cwyno i ombwdsmon. Nid oes unrhyw iawndal i ddiogelu’r arian a dalwch am eich cyfranddaliadau; felly gallech golli peth neu’r cyfan o’r arian a fuddsoddwch.

Mae cymdeithas fudd cymunedol wedi’i chofrestru gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ond nid wedi’i awdurdodi ganddo, ac felly ni warchodir yr arian a dalwch am eich cyfrannau gan unrhyw gynllun buddsoddi adneuwyr na chynllun datrys anghydfodau.

Cynllun Buddsoddiad Menter

Rydym yn gwneud cais i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (CThEM) am gymeradwyaeth i’r cynnig cyfrannau gael ei dderbyn i’r Cynllun Buddsoddiad Menter. Yn amodol ar amgylchiadau personol, byddai hyn yn galluogi aelodau unigol i hawlio rhyddhad treth hyd at 30% ar fuddsoddiadau mwy na £500 yn y cynllun cyfrannau cymunedol. Bydd y buddiannau’n dibynnu ar amgylchiadau personol a dylech geisio cyngor proffesiynol. Rhown wybod i’r aelodau’n syth pan gawn benderfyniad gan CThEM a dylai aelodau ddeall nad oes sicrwydd y byddwn yn llwyddiannus yn hyn o beth.

Sut y byddem yn defnyddio’ch buddsoddiad

Yn dibynnu pa bryd y buddsoddwch, defnyddir yr arian mewn un o ddwy ffordd:

  • Yn y tymor byr i roi lle i anadlu i’n galluogi i ailstrwythuro’r busnes.
  • Yn y tymor canolig i hir i’n helpu i dyfu’r busnes

Gobeithiwn y cymerwch y cyfle i fuddsoddi ar sail barhaus, ac y gellir gydag amser ad-dalu eich buddsoddiad, a hynny gyda llog o bosib, os gall y Clwb fforddio gwneud hynny yn y dyfodol.

Tynnu cyfrannau cymunedol allan

Gellir tynnu cyfrannau cymunedol yn yr Ymddiriedolaeth allan ar ddisgresiwn Bwrdd YCW ac ar yr amodau canlynol:

  • Ni chaniateir tynnu allan tan o leiaf 3 blynedd wedi dyddiad lansio’r cynllun.
  • Ni ellir tynnu mwy na 10% o gyfanswm y cyfranddaliad allan mewn unrhyw un flwyddyn ar ôl blwyddyn tri.

Wedi tair blynedd, caiff ceisiadau i dynnu buddsoddiadau allan eu hystyried gan y Bwrdd yn nhrefn eu derbyn a hyd at uchafswm o 10% o gyfanswm y cyfranddaliad. Os bydd aelod yn peidio adnewyddu ei aelodaeth, bydd ei arian yn parhau wedi’i fuddsoddi yn y cynllun nes gwneir cais i dynnu’r arian allan ar y telerau uchod.

Ni ellir prynu a gwerthu cyfrannau cymunedol ac ni allant godi mewn gwerth ond gallant fynd i lawr os gwna’r Clwb golledion parhaus.

Cynnig agored yw hwn

Mae’r cynnig hwn yn amodol ar i’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol gymeradwyo ein Cyfansoddiad newydd sy’n caniatáu cyhoeddi cyfrannau cymunedol a bydd yn parhau’n agored heb derfyn neu hyd nes bydd Aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn penderfynu cau’r cynnig cyfrannau. Er ein bod wedi gosod targed codi arian inni’n hunain does dim dyddiad cau ar y cynnig hwn ac felly fe’i gelwir yn gynnig agored.


Dim ond i aelodau YCW y mae’r cynnig hwn yn agored

Sylwer mai dim ond i aelodau unigol o’r Ymddiriedolaeth y mae’r cynnig hwn yn agored. Mae ffurflenni ymaelodi ar gael yn Siop y Clwb, Siop yr Ymddiriedolaeth ar Ffordd yr Wyddgrug (nesaf at y Turf) neu ar-lein ar ein gwefan: http://www.wst.org.uk. Cysylltwch â ni os ydych chi am fuddsoddi ar ran grŵp cefnogwyr. 

Gan mai dim ond ein haelodau all gael cyfrannau cymunedol, caiff unrhyw gyfraniadau a wneir yn gyson (e.e. drwy daliadau archeb sefydlog) gan unigolyn y mae ei aelodaeth o’r Ymddiriedolaeth wedi dod i ben eu hanfon yn ôl at yr unigolyn hwnnw, gyda nodyn atgoffa i adnewyddu ei aelodaeth.

Mae disgwyliad felly y bydd buddsoddwyr yn parhau’n aelodau o’r Ymddiriedolaeth tra’n dal cyfrannau cymunedol.

Does dim hawliau pleidleisio ychwanegol

Dydi Cyfrannau Cymunedol ddim yn cynnwys hawliau pleidleisio ychwanegol, felly bydd ethos un aelod un bleidlais yr Ymddiriedolaeth yn aros. Rhestrir hawliau a chyfrifoldebau aelodau’n llawn yn rheolau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam a’r polisïau ategol, y gellir eu gweld yn www.wst.org.uk

Ymholiadau pellach

Os nad oes ateb i’ch cwestiwn uchod, cyfeiriwch at yr adran Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan, www.wst.org.uk i ddechrau. Os na chewch ateb i’ch ymholiad yn y fan honno, ac os hoffech drafod hyn ymhellach, ebostiwch This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it neu ffoniwch 07961 152470. Bydd aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn ymateb i’ch ymholiad o fewn 48 awr.


Buddiannau

Mae buddsoddi yn y cynllun cyfrannau cymunedol yn rhoi ystod eang o fuddiannau i’r Ymddiriedolaeth Cefnogwyr ac i’n haelodau unigol. Fel y nodwyd eisoes yn y ddogfen hon, bydd YCW yn defnyddio’r arian hwn i helpu ailstrwythuro’r Clwb yn y tymor byr a thyfu’r busnes yn y tymor canolig i hir.

Mae’r cynllun yn rhoi amrediad o fuddiannau penodol i aelodau unigol, yn dibynnu ar lefel eich buddsoddiad. Caiff buddsoddwyr y dewis o dderbyn llog hyd at 2% yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr, ond dim ond ar ddisgresiwn Bwrdd yr Ymddiriedolaeth y caiff ei dalu, os gall y Clwb ei fforddio.

Ar y ffurflen gais, caiff buddsoddwyr roi tic i nodi a ydynt eisiau derbyn dim llog, llog ar lefel cyfradd sylfaenol Banc Lloegr, llog o 1% + cyfradd sylfaenol Banc Lloegr neu 2% + cyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Ni allwn warantu y caiff buddsoddwyr elw, ond os llwyddwn i drawsnewid y busnes yna gobeithiwn rannu ein llwyddiant gyda’n haelodau.

Fel clwb pêl-droed sydd ym meddiant y gymuned, credwn ei bod yn hanfodol inni gynnig ein cefnogaeth i sefydliadau cymunedol eraill. Felly i bob aelod sy’n buddsoddi £250 neu fwy rydym yn cynnig y cyfle i roi tocyn gêm am ddim i elusen leol am bob tymor y mae eu cyfrif cyfranddaliad yn dal £250 neu fwy. Bydd hyn yn dibynnu ar fod tocynnau ar gael ac ar ddisgresiwn y Clwb.

Yn ystod tymor 2012/13, mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth wedi penderfynu cefnogi Hope House/Tŷ Gobaith, elusen leol sy’n rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc â disgwyliad oes byr, a’u teuluoedd. Yn y dyfodol byddwn yn gofyn i fuddsoddwyr bleidleisio ar ba elusen neu elusennau yr hoffen nhw eu cefnogi er mwyn rhoi llais i bob aelod unigol ynglŷn â’r achosion da y dylai YCW eu cefnogi bob tymor.

Yn amodol ar amgylchiadau personol a chanlyniad ein cais Cynllun Buddsoddiad Menter, gall rhyddhad treth hyd at 30% fod ar gael i aelodau unigol sy’n buddsoddi £500 neu fwy. Ar ben hynny, bydd pob aelod unigol sy’n buddsoddi £1,000 neu fwy’n mynd yn aelodau am oes o’r Ymddiriedolaeth. I barhau’n aelod oes bydd angen i fuddsoddwyr ddal i gadw o leiaf £1,000 wedi’i fuddsoddi yn eu cyfrif cyfrannau. Gall aelodau fuddsoddi hyd at uchafswm o £20,000.

Mae Tabl 2 isod yn dangos y buddiannau sydd ar gael i aelodau unigol.

Lefel buddsoddiad

Llog posibl hyd at 2% uwch na chyfradd Banc Lloegr1

Tystysgrif Cyfrannau

Rhodd tocyn elusen

Rhyddhad Treth Posibl2

Aelodaeth Oes YCW

£100

 

 

 

£250

 

 

£500

 

£1000

Tabl 2: Y buddiannau sydd ar gael i aelodau unigol

  1. Bydd llog hyd at 2% uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn daladwy dim ond ar ddisgresiwn Bwrdd yr Ymddiriedolaeth os gall y Clwb ei fforddio.
  2. Noder na fydd rhyddhad treth ond ar gael os bydd ein cais am Gynllun Buddsoddiad Menter yn llwyddiannus.
Yn olaf ac yn bwysicaf oll, mae’r cynllun hwn yn cynnig cyfle unigryw i’n holl aelodau unigol chwarae rhan mewn trawsnewid Clwb Pêl-droed Wrecsam yn fenter gymunedol lwyddiannus a chynaliadwy. Am y tro cyntaf yn ein hanes hir ac enwog, mae’n rhoi cyfle hefyd i bob cefnogwr gael rhan yn Ein Clwb, Ein Dyfodol.

YCW a Chlwb Pêl-droed Wrecsam: y daith 10 mlynedd i berchnogaeth gymunedol

Cofrestrwyd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn swyddogol ar 15 Mawrth 2002 gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol gyda’r prif nod o godi arian i helpu prynu chwaraewyr drwy’r ymgyrch ‘peint yr wythnos’.

Bu’r lansiad cyntaf yn llwyddiant gan godi bron £43,000 o nawdd i’r clwb pêl-droed i helpu’r rheolwr ar y pryd, Denis Smith, arwyddo Marius Røvde, Dan Bennett, Paul Edwards, Scott Green, Chris Armstrong a Chris Llewellyn.

Gyda phroblemau ariannol dybryd oddi ar y cae a’r newid perchnogaeth daeth yn amlwg yn haf 2004 fod rhaid i ffocws yr Ymddiriedolaeth newid. Aeth y clwb i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Tachwedd 2004, ond daliodd yr Ymddiriedolaeth i gefnogi. Rhoddwyd dros £30,000 i’r gweinyddwyr i’w helpu i ennill brwydr gyfreithiol i sicrhau ein bod yn adennill meddiant ar ein Cae Ras hanesyddol.

Daliwyd i gefnogi’r clwb, gan redeg Siop y Clwb yn llwyddiannus ar ran y gweinyddwyr a chodi’r cyfanswm a roddwyd i’r Clwb Pêl-droed i bron £100,000 erbyn diwedd 2006. Yn yr un tymor rhoddodd yr Ymddiriedolaeth grys pêl-droed am ddim i bawb a brynodd docyn tymor i blentyn, yn y gred bod eich crys cyntaf yn eich clymu i’ch Clwb am oes.

Wrth i’r Clwb ddod allan o weinyddiaeth yn 2006 dechreuodd yr Ymddiriedolaeth ganolbwyntio ar gefnogi’r gymuned leol. Rhoddodd £25,000 i’r Clwb i brynu bws mini i’r Ganolfan Ragoriaeth. Wrth inni noddi a llogi blychau moethus ar ran hosbisau ac elusennau lleol cawsant hwy godi arian drwy gynnal loteri a sicrhau bod gwirfoddolwyr lleol yn cael gwobr am eu hymdrechion.

Yn 2010 comisiynodd yr Ymddiriedolaeth yr arolwg mwyaf erioed o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam. Ymdriniwyd â phob agwedd o’r clwb, gan graffu ar brisiau mynediad, profiad diwrnod gêm, Siop y Clwb, cyfathrebu a grwpiau cefnogwyr.

Wedi i’r Clwb oroesi gorchymyn dirwyn i ben ym Mai 2011, gwerthwyd y Cae Ras a Colliers Park, ysywaeth, i dalu ei ddyledion. Wedi ymgyrch hir i hel aelodaeth ac ymgyrch yn y cyfryngau, pleidleisiodd aelodau’r Ymddiriedolaeth yn unfrydol i’r Bwrdd fwrw ati i brynu’r Clwb yn Awst 2011.

Wedi trafodaethau hir cafwyd canlyniad llwyddiannus i gynnig yr Ymddiriedolaeth ac yn Nhachwedd 2011 rhoddodd yr awdurdodau pêl-droed gymeradwyaeth i YCW brynu’r Clwb Pêl-droed. Wedi 10 mlynedd o waith caled roedd aelodaeth yr Ymddiriedolaeth yn uwch nag erioed. Erbyn hyn y cefnogwyr sydd biau’r clwb, ac yn ei redeg er budd ein cymuned.

Ein Clwb ni a’n Dyfodol ni, go iawn!

Ein partneriaid – Supporters Direct

Ffurfiwyd Supporters Direct yn 2000 fel menter gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ei nod yw ‘hyrwyddo clybiau chwaraeon gwylwyr cynaliadwy ar sail ymwneud cefnogwyr a pherchnogaeth gymunedol’.

Fel ni, cymdeithas fudd cymunedol yw Supporters Direct wedi’i chofrestru â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ac yn eiddo i’r ymddiriedolaethau cefnogwyr sy’n aelodau ohoni, yn cynnwys Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.

Crynodeb o’r pwyntiau allweddol

  • Cynigir y cyfrannau yn YCW ond nid ydynt yn newid yr ethos un aelod un bleidlais sydd yn sylfaenol i ni.
  • O bosib gellid talu swm bach o log a dychwelyd y buddsoddiad, er na thelir llog na dychwelyd unrhyw fuddsoddiad am o leiaf 3 blynedd. Mae taliadau llog ac ad-dalu buddsoddiadau’n annhebygol o ddigwydd ym mlynyddoedd 3 – 5 ac efallai na ddigwyddant byth.
  • Bydd yr arian yn rhoi amser inni sefydlogi busnes sydd wedi bod yn gwneud colledion mawr a gweithio i’w droi’n Glwb cynaliadwy a llwyddiannus.
  • Mae’r cynnig yn amodol ar i’r FSA gymeradwyo ein Cyfansoddiad newydd sy’n caniatáu cyhoeddi cyfrannau cymunedol a bydd yn parhau’n agored hyd nes bydd Aelodau Bwrdd YCW yn penderfynu ei gau.

Ffeithiau allweddol

  • Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 2002 i sicrhau einioes y Clwb
  • Mae’r Ymddiriedolaeth wedi codi dros £600,000 ers ei sefydlu.
  • Erbyn hyn mae gan yr Ymddiriedolaeth dros 2100 o aelodau.
  • Ffurfiodd yr Ymddiriedolaeth Wrexham AFC Ltd yn 2011 i redeg y Clwb o ddydd i ddydd.
  • Yr Ymddiriedolaeth yw’r cyfranddaliwr 100% yn Wrexham AFC Ltd

WST Community Share Offer Brochure    |    WST Community Share Offer Application Form    |    WST Community Share Offer Standing Order Form   |   Cwestiynau Cyffredin am Gynnig Cyfrannau Cymunedol YCW

Wrexham AFC Limited Football Conference Financial Forecast (Season 2012/13)    |    Wrexham AFC Limited Football League Financial Forecast (Season 2012/13)



Add this page to your favorite Social Bookmarking websites
Facebook! Reddit! Del.icio.us! Google! Live! Technorati! StumbleUpon! MySpace! Yahoo! Twitter! LinkedIn! Joomla Free PHP