Cwestiynau Cyffredin am Gynnig Cyfrannau Cymunedol YCW
Cynnig Cyfrannau Cymunedol YCW | WST Community Share Offer Brochure | WST Community Share Offer Application Form | WST Community Share Offer Standing Order Form
Wrexham AFC Limited Football Conference Financial Forecast (Season 2012/13) | Wrexham AFC Limited Football League Financial Forecast (Season 2012/13)
Beth fydd yn digwydd i fy arian?
Caiff eich arian ei dalu i gyfrif arbennig i ddal cyfalaf Cyfrannau Cymunedol. Bydd yr arian cyfalaf a godir yn caniatáu inni gynllunio ein dyfodol gan wybod bod y cyfalaf angenrheidiol gennym i droi clwb a fu’n gwneud colled yn hanesyddol i fod yn glwb pêl-droed cymunedol llwyddiannus, diogel a chynaliadwy. Bydd yr arian yn rhoi amser inni fynd ati i osod y sylfeini ar gyfer cynllun busnes hirdymor, y gobeithiwn gael yn ei le erbyn diwedd tymor 2011/12 a bod ar y droed flaenaf ar gyfer y tymor nesaf a’r dyfodol. Yn dibynnu pa bryd y buddsoddwch, defnyddir yr arian mewn un o ddwy ffordd:
- Yn y tymor byr i roi lle i anadlu i’n galluogi i ailstrwythuro’r busnes.
- Yn y tymor canolig i hir i’n helpu i dyfu’r busnes
Pa ddulliau talu alla i ddefnyddio?
Mae dwy ffordd y gallwch chi dalu arian i gyfrif Cyfrannau YCW – drwy siec neu drosglwyddiad electronig. Gellir gwneud taliadau trosglwyddiad electronig fel un taliad neu fesul rhandaliad.
Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, a’u hanfon i:
Cyfrannau Cymunedol YCW, FREEPOST WST
Dylid gwneud taliadau electronig i’r cyfrif canlynol:
Co-operative Bank PLC, PO Box 250, Delf House, Southway, Skelmersdale, WN8 6WT Sort Code 08-92-99 Account Number 65304738
Noder fod rhaid cyflwyno copi wedi’i lofnodi o’r ffurflen gais gyda phob tâl. Ni dderbynnir taliadau arian parod.
Sut fyddwch chi’n gwybod pa un yw fy nhaliad i?
Boed eich tâl drwy drosglwyddiad electronig neu siec, mae’n rhaid ichi anfon eich ffurflen gais hefyd i’r cyfeiriad isod:
Cyfrannau Cymunedol YCW, FREEPOST WST
Bydd hyn yn ein galluogi i roi pob tâl yn erbyn enw’r sawl a’i gwnaeth.
Oes yna derfyn ar faint y galla i fuddsoddi?
Yr uchafswm y gellir ei fuddsoddi mewn cyfranddaliadau yw £20,000. Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi’r Gymdeithas gyda swm mwy, gwahoddir chi i gysylltu â ni i drafod sut orau i wneud hyn gan fod sawl ffordd y gellid derbyn cyfraniad uwch. Ebostiwch eich manylion cysylltu i This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it a bydd aelod o Fwrdd y Gymdeithas yn eich galw o fewn 48 awr i drafod y mater.
Beth os na alla’i fforddio’r cynllun cyfrannau?
Er mwyn agor y cynllun i gymaint o bobl ag sy’n bosib, caiff aelodau unigol ddewis buddsoddi mewn deg rhandal cyfartal neu wneud buddsoddiad parhaus yn y cynllun drwy archeb sefydlog. Bydd YCW yn ysgrifennu atoch pan fyddwch wedi cyrraedd eich targed buddsoddi.
Sut alla i gael fy mhres yn ôl?
Gellir tynnu cyfrannau cymunedol yn yr Ymddiriedolaeth allan ar ddisgresiwn Bwrdd YCW ac ar yr amodau canlynol:
-
Ni chaniateir tynnu allan tan o leiaf 3 blynedd wedi dyddiad lansio’r cynllun.
-
Ni ellir tynnu mwy na 10% o gyfanswm y cyfranddaliad allan mewn unrhyw un flwyddyn ar ôl blwyddyn tri.
Wedi tair blynedd, rhaid i geisiadau i dynnu buddsoddiadau allan gael eu rhoi ar bapur a chânt eu hystyried gan y Bwrdd yn nhrefn eu derbyn a hyd at uchafswm o 10% o gyfanswm y cyfranddaliad. Fe wnaiff y Bwrdd ystyried ceisiadau am dynnu arian allan mewn amgylchiadau eithriadol fesul achos.
Pwy ydi Cymdeithas Cefnogwyr Wrecsam Cyfyngedig?
Cymdeithas Cefnogwyr Wrecsam Cyfyngedig yw enw cofrestredig Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam ac mae’n gorff democrataidd o gefnogwyr gyda dros 2,100 o aelodau llawn. Mae gan bob aelod bleidlais gyfartal a chyfle cyfartal i’w gynnig ei hun ac i bleidleisio eraill i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr sy’n eu cynrychioli. Ffurfiwyd y Gymdeithas yn 2002 ac mae wedi codi dros £600,000 ers ei ffurfio. Ym mis Tachwedd 2011, daeth YCW yn gyfranddaliwr 100% yn Wrexham AFC Ltd.
Beth yw Cyfrannau yn y Gymdeithas?
Ar hyn o bryd mae pob aelod o’r Gymdeithas yn dal un gyfran gyffredin na ellir ei throsglwyddo na’i thynnu i ffwrdd.
Does gan Gyfrannau Cymunedol newydd YCW ddim hawliau pleidleisio ychwanegol (ac felly dydyn nhw ddim yn newid yr egwyddor un aelod un bleidlais sy’n sylfaenol i’r Gymdeithas) ond maen nhw’n caniatáu i’r Gymdeithas godi arian mewn ffordd na allai o’r blaen. Mae cyfyngiadau ar ba bryd y gellir talu cyfrannau’n ôl, sydd wedi’u hamlinellu yn nogfen y cynnig ac mae’n golygu bod y Gymdeithas a’i haelodau’n ddiogel ac nad oes perygl i amcanion y Gymdeithas.
Wnaiff hyn effeithio ar fy hawliau pleidleisio fel aelod?
Na. Mae gan bob aelod o’r Gymdeithas un bleidlais, os oes ganddo gyfrannau yn y Gymdeithas neu beidio. Fel y nodwyd uchod, does gan Gyfrannau Cymunedol YCW ddim hawliau pleidleisio ychwanegol.
Beth am roddion ariannol a chynlluniau eraill i godi arian?
Mae rhoddion i’r Ymddiriedolaeth a gweithgareddau codi arian mor bwysig ag erioed, os nad pwysicach. Gellir dal i roi rhoddion ariannol yn uniongyrchol i’r Ymddiriedolaeth WST – rhif cyfrif banc 65084582 a chod didoli 08-92-99 – tra gellir cyfeirio unrhyw syniadau a chynlluniau eraill ar gyfer codi arian i This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it .
Oes raid bod yn aelod o’r Gymdeithas i dalu arian i mewn i’r cyfrif?
Dim ond aelodau unigol o YCW sy’n 16 oed neu drosodd all brynu a dal cyfrannau. Os nad ydych yn aelod ac eisiau buddsoddi yn y cynllun gallwch ymuno â’r Ymddiriedolaeth drwy ein gwefan www.wst.org.uk.
Ai dim ond unigolion all fuddsoddi neu all cyrff corfforaethol a chwmnïau ymuno â’r cynllun hefyd?
Yn y pen draw, i gymryd rhan yn y cynllun cyfrannau cymunedol, boed yn unigolyn neu’n fusnes, bydd angen ichi fod yn aelod o YCW. Gall grwpiau o bobl fel cwmnïau neu grwpiau cefnogwyr brynu cyfrannau. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu cyfrannau ar ran grŵp cefnogwyr, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth am fwy o wybodaeth.
Pa fuddiannau ga i wrth fuddsoddi?
Os gall y Clwb fforddio hynny, ac ar ddisgresiwn Bwrdd YCW, gellir talu llog blynyddol ar gyfranddaliadau hyd at uchafswm o 2% yn fwy na chyfradd waelodol y banc clirio (Banc Lloegr). All yr Ymddiriedolaeth ddim gwarantu y gwnaiff buddsoddwyr elw, ond os llwyddwn i drawsffurfio’r busnes yna byddem yn gobeithio rhannu ein llwyddiant gyda’n haelodau.
At hynny, am bob £250 a fuddsoddir gan unigolyn, bydd YCW yn rhoi tocyn gêm am ddim i’r elusen a enwebir ganddi. Os bydd unigolyn yn buddsoddi £1000, caiff aelodaeth oes o’r Ymddiriedolaeth.
Alla i werthu fy nghyfrannau?
Does dim modd prynu a gwerthu cyfrannau cymunedol felly all neb eu trosglwyddo na’u gwerthu i drydydd parti.
Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n adnewyddu fy aelodaeth o YCW?
Os bydd unigolyn yn peidio â bod yn aelod, bydd ei arian yn parhau wedi’i fuddsoddi yn y cynllun nes gwneir cais i’w dynnu allan. Pan geir cais bydd yn dod o dan yr un rheolau â chais safonol am dynnu arian allan.
Caiff unrhyw gyfraniadau a wneir ar sail reolaidd (e.e. drwy randaliadau archeb sefydlog) gan unigolyn y mae ei aelodaeth o’r Ymddiriedolaeth wedi dod i ben eu talu’n ôl i’r cyn aelod, gyda nodyn atgoffa iddo adnewyddu ei aelodaeth.
Pwy ydi Supporters Direct?
Supporters Direct yw’r corff ymbarél i dros 170 o Ymddiriedolaethau Cefnogwyr ym Mhrydain. Eu nod yw hyrwyddo clybiau chwaraeon gwylwyr cynaliadwy ar sail ymwneud cefnogwyr a pherchnogaeth gymunedol. Mae dros 250,000 o bobl yn aelodau o Ymddiriedolaethau Cefnogwyr ac maen nhw’n gweithio mewn 20 o wledydd ledled Ewrop yn rhoi cyngor a chymorth i gefnogwyr sy’n benderfynol o gynyddu eu llais, eu dylanwad a’u perchnogaeth ar eu clwb. Gwefan: www.supporters-direct.coop.
Unrhyw gwestiwn arall?
Os oes gennych gwestiwn penodol ynghylch Cynnig Cyfrannau Cymunedol YCW sydd heb ei ateb yma, ebostiwch This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it neu ffoniwch 07961152470. Bydd aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn ymateb i’ch ymholiad o fewn 48 awr.
Am wybodaeth fwy cyffredinol ynglŷn â Chynlluniau Cyfrannau Cymunedol, ewch i http://www.communityshares.org.uk
Cynnig Cyfrannau Cymunedol YCW | WST Community Share Offer Brochure | WST Community Share Offer Application Form | WST Community Share Offer Standing Order Form
Wrexham AFC Limited Football Conference Financial Forecast (Season 2012/13) | Wrexham AFC Limited Football League Financial Forecast (Season 2012/13)

















