Attila The Stockbroker
Wrexham Supporters Trust are pleased to announce that our great friend and Brighton fan 'Attila The Stockbroker' will be doing a benefit concert on behalf of the Trust on Saturday 30th June 2012 at Saith Seren (Seven Stars).
Also appearing will be our very own Declan Swans, as well as the Australian folk singer Rory Ellis.
The doors open at 8pm and it is ticket only. Tickets are £5 and available from the Trust Shop next to the Turf; The Club Shop; and Seren Saith. whilst you can also purchase them on line at www.wst.org.uk
It promises to be a memorable evening. Please don't miss out, buy your tickets now!
For those who are unaware of Attila The Stockbroker, he is a punk poet, and a folk punk musician and songwriter. He performs solo and as the leader of the band Barnstormer. He describes himself as a "sharp tongued, high energy social surrealist poet and songwriter." He has performed over 2,700 concerts, published six books of poems, and released 30+ recordings (CDs, LPs and singles).
He is an ardent supporter of Brighton & Hove Albion F.C., and for about 16 years was heavily involved in the successful battle to save the club and secure a new stadium, after the Goldstone Ground was sold to property developers in 1997. The Seagulls finally moved to their new stadium at Falmer in August 2011. He has been the team's poet in residence since 2000, and was the stadium announcer and DJ for 14 years, first at Gillingham, where the club spent two seasons playing 'home' games, and then at the club's temporary Withdean Stadium. As the main member of the one-off band Seagulls Ska, he had a single reach #17 in the UK charts in 2005, as part of the campaign for the new stadium.
Rory Ellis has spent many years touring locally and internationally taking inspiration from suburban street culture, some of the seedier Melbourne pubs he has worked in, not just as a performer, regular glimpses of the Melbourne underworld, people he's loved, lost, and from his own eventful life, rich in contrast. Audiences at Rory's numerous festival appearances and more intimate performances have been captivated by his powerful vocal command and subtle acoustic instrumentation that bring the vivid stories to life.
Our Club Our Future - Support the Trust!
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn falch o gyhoeddi y bydd ein cyfaill mawr a chefnogwr Brighton 'Attila The Stockbroker' yn cynnal noson i godi arian i’r Ymddiriedolaeth nos Sadwrn 30 Mehefin yn y Saith Seren.
Hefyd yn ymddangos bydd ein hogie ni, Declan Swans, a’r canwr gwerin o Awstralia Rory Ellis.
Mae’r drysau’n agor am 8 y.h. ac mae’n noson tocynnau’n unig. Pris tocynnau yw £5 a gallwch eu cael o Siop yr Ymddiriedolaeth nesaf at y Turf; Siop y Clwb, a’r Saith Seren. Maen nhw hefyd ar gael ar-lein ar www.wst.org.uk
Mae’n addo bod yn noson i’w chofio. Peidiwch â cholli’ch cyfle, prynwch eich tocynnau rŵan!
Os nad ydych chi’n gyfarwydd ag Attila The Stockbroker, bardd pync ydi o, a chanwr a chyfansoddwr caneuon pync gwerin. Mae’n perfformio ar ei ben ei hun ac fel arweinydd y band Barnstormer. Mae’n disgrifio’i hun fel "bardd a chyfansoddwr caneuon cymdeithasol swrealaidd deifiol ac egnïol.” Mae wedi perfformio dros 2,700 o gyngherddau, wedi cyhoeddi chwe chyfrol o gerddi ac wedi rhyddhau dros 30 o recordiadau (CDs, LPs a senglau).
Mae’n gefnogwr brwd Clwb Pêl-droed Brighton & Hove Albion, ac am ryw 16 mlynedd bu ganddo ran fawr yn y frwydr lwyddiannus i achub y clwb a sicrhau stadiwm newydd, ar ôl i’r Goldstone Ground gael ei werthu i ddatblygwyr eiddo ym 1997. Symudodd y Gwylanod i’w stadiwm newydd yn Falmer o’r diwedd yn Awst 2011. Fo ydi bardd preswyl y tîm ers 2000, a bu’n gyhoeddwr a DJ y stadiwm am 14 o flynyddoedd, yn gyntaf yn Gillingham, lle treuliodd y clwb ddau dymor yn chwarae gemau ‘cartref’, ac wedyn yng nghartref dros dro’r clwb yn Stadiwm Withdean. Fel prif aelod y band byrhoedlog Seagulls Ska, cafodd sengl i rif #17 yn y siartiau Prydeinig yn 2005, fel rhan o’r ymgyrch dros stadiwm newydd.
Mae Rory Ellis wedi treulio blynyddoedd ar daith yn lleol a rhyngwladol, gan ddwyn ysbrydoliaeth o ddiwylliant y stryd swbwrbaidd, rhai o’r tafarnau mwy amheus y bu’n gweithio ynddynt yn Melbourne, nid dim ond fel perfformiwr, ambell gipolwg rheolaidd ar isfyd Melbourne, pobl y mae wedi’u caru a’u colli, ac o’i fywyd ei hun, llawn digwyddiadau cyferbyniol. Cafodd cynulleidfaoedd yn y nifer fawr o wyliau cerdd y bu Rory'n perfformio ynddynt, a’r llwyfannau mwy cartrefol, i gyd eu swyno gan ei lais grymus a’i waith offerynnol acwstig cynnil sy’n dod â’i straeon lliwgar yn fyw.
Ein Clwb Ni Ein Dyfodol Ni – Cefnogwch yr Ymddiriedolaeth!’

















